Rhif y ddeiseb: P-06-1339

 

Teitl y ddeiseb: Dylid creu gofyniad bod paneli solar yn cael eu gosod ar bob cartref newydd yng Nghymru, a hynny fel amod o sicrhau caniatâd cynllunio.

 

Geiriad y ddeiseb:  

Mae'r byd yn wynebu argyfwng ynni, ac rydym i gyd yn wynebu argyfyngau brawychus o ran yr hinsawdd a byd natur. Dyma pam mae mor bwysig bod Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd o ran sicrhau ffynonellau ynni adnewyddadwy yn y dyfodol.

 

Dyma pam y dylai pob adeilad diwydiannol, masnachol a domestig newydd (nad yw yn y cysgod nac yn wynebu'r gogledd) gynnwys cyfarpar ynni solar fel rhan o'r broses o gael caniatâd cynllunio.

Mae'r haul yn cynhyrchu mwy na digon o ynni i ddiwallu anghenion ynni'r byd i gyd, ac nid yw'r ynni hwnnw’n debygol o ddod i ben.

Mae nifer o fanteision amgylcheddol ynghlwm wrth ddefnyddio paneli solar. Maent yn cynhyrchu ynni gwyrdd, ac nid ydynt yn creu allyriadau wrth wneud hynny:

1.              Maent yn lleihau'r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio o'r Grid Cenedlaethol. Maent yn lleihau tlodi ynni ac yn ein helpu ni i gadw’r goleuadau ymlaen.

 

2.            Nid ydynt yn creu allyriadau. Gallant leihau ôl troed carbon eich cartref 80 y cant mewn blwyddyn.

 

3.            Maent yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae ynni solar yn fath o ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn golygu bod digon ohono i bawb ei rannu, gan ei fod yn ffynhonnell o ynni na fydd yn dod i ben (nid am biliynau o flynyddoedd, beth bynnag). Mae tanwyddau ffosil yn ffynonellau cyfyngedig o ynni, ac rydym yn niweidio'r blaned pan fyddwn yn cloddio amdanynt ac yn eu dosbarthu.

 

4.            Maent yn para am amser hir ac nid oes angen llawer o waith cynnal a chadw arnynt, os o gwbl. Mae angen ailosod unedau gwresogi confensiynol a gwneud gwaith cynnal a chadw arnynt yn gymharol reolaidd. Gall hyn achosi llawer o wastraff nad yw'n ecogyfeillgar, yn ogystal â chynyddu'r angen am fwy o unedau. Gan fod paneli solar yn para tua 50 mlynedd, ni ddylai fod angen i chi eu hadnewyddu am amser hir.


1.        Cefndir

Mae Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd ac mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd wedi clywed tai preifat ac yn cael eu disgrifio fel “yr eliffant sero-net yn yr ystafell” ar gyfer cyrraedd Targed Llywodraeth Cymru o sero net erbyn 2050. Er bod y cyfeiriad penodol hwnnw’n canolbwyntio ar yr angen i ôl-osod cartrefi presennol i wella effeithlonrwydd ynni, bydd effeithlonrwydd cartrefi newydd hefyd yn chwarae rhan allweddol.

Mae adroddiad cynnydd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU ym mis Mehefin 2023 ar leihau allyriadau yng Nghymru wedi canfod bod capasiti ynni adnewyddadwy Cymru wedi cynyddu dros amser ond mae’r gyfradd gosod pŵer solar wedi arafu ers 2016.

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ofyniad ar ddatblygwyr i osod paneli solar ar adeiladau newydd, fodd bynnag, mae mecanweithiau wedi'u cynllunio er mwyn galluogi a hyrwyddo eu gosod.

Hawliau datblygu a ganiateir

Mae rhai mathau o ddatblygiadau yn cael eu diffinio gan gyfraith cynllunio fel rhai ‘a ganiateir’ ac felly yn cael caniatâd cynllunio yn awtomatig. Mae hyn yn cynnwys nifer o brosiectau cartrefi cyffredin sy'n bodloni meini prawf penodol.

Mae hawliau datblygu a ganiateir sy’n caniatáu gosod offer microgynhyrchu, gan gynnwys paneli solar ar doeau ar eiddo domestig ac annomestig yng Nghymru, heb orfod gwneud cais cynllunio. Lle nad yw meini prawf penodol yn cael eu bodloni byddai angen cais cynllunio.

Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi hysbysiad hwylus ar gynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach  sy'n darparu rhagor o wybodaeth.

Rheoliadau Adeiladu

Mae'r Rheoliadau Adeiladu yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Adeiladu 1984. Maent yn llywodraethu'r ffordd y dylid adeiladu adeiladau drwy bennu safonau gofynnol ar gyfer dylunio, adeiladu ac addasiadau. Darperir canllawiau technegol ar sut i gydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu yn y ‘dogfennau cymeradwy‘.

Mae Rhan L o'r dogfennau a gymeradwyir yn ymwneud â chadwraeth tanwydd a phŵer.

Yn 2022 cwblhaodd Llywodraeth Cymru adolygiad o Ran L. Roedd yn cyflwyno safonau gofynnol effeithlonrwydd ynni uwch ar gyfer pob cartref newydd nag a oedd yn ofynnol yn flaenorol. Fodd bynnag, yn gyffredinol nid yw'r Rheoliadau Adeiladu yn rhagnodi mathau penodol o wresogi neu gynhyrchu ynni i'w defnyddio i fodloni safonau.

Mae adolygiad pellach o Ran L wedi’i gynllunio ar gyfer 2025.

Gwledydd eraill

Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cynnig gwneud paneli solar yn orfodol ar bob adeilad newydd yn yr UE. Byddai’r fenter toeau solar, sy’n rhan o Gynllun REPowerEU y Comisiwn Ewropeaidd, yn gweld gofyniad i osod paneli solar ar adeiladau preswyl, cyhoeddus a masnachol newydd.

Mae Japan eisoes wedi pasio rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol cael paneli solar ar bob tŷ newydd a gaiff ei adeiladu yn Tokyo gan ‘adeiladwyr tai ar raddfa fawr’ ar ôl mis Ebrill 2025.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn ei llythyr at y Cadeirydd dyddiedig 7 Mehefin, dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ei bod yn cytuno’n llwyr â’r deisebydd ar “raddfa’r argyfwng hinsawdd a natur yr ydym yn ei wynebu”.

Er bod y Gweinidog yn dweud bod y “cynnig y dylid gosod paneli ynni solar ar bob adeilad newydd, mewn egwyddor, yn awgrym da”, yn ei barn hi mae sawl rheswm pam nad yw’n credu y dylid ei fandadu ar hyn o bryd.

Yn ei llythyr, mae’r Gweinidog yn awgrymu fel a ganlyn:

§  dull cyffredinol Llywodraeth Cymru o ymdrin â Rheoliadau Adeiladu, y diwygiadau y mae wedi’u gwneud ac y mae’n bwriadu eu gwneud yw’r camau cywir i gyflawni niwtraliaeth carbon dros amser;

§  hawliau datblygu presennol a ganiateir yn taro ‘cydbwysedd priodol’ i ganiatáu gosodiadau solar wrth ystyried eiddo cyfagos;

§  efallai na fydd paneli solar yn addas ar gyfer pob eiddo – mae’r Gweinidog yn cyfeirio at y cyfeiriad y mae eiddo yn ei wynebu, a yw eiddo wedi’i leoli mewn ardaloedd gwarchodedig, yn adeiladau rhestredig a phroblemau penodol posibl ar gyfer rhai mathau o adeiladau;

§  problemau posibl gyda chyflenwad paneli solar os bydd y galw yn cynyddu; ac

§  y gallai mandadu un dechnoleg achosi oedi i ymddangosiad technolegau newydd ac atebion ynni mwy effeithlon.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Mae Pwyllgor Deisebau'r Bumed Senedd wedi ystyried deiseb debyg iawn i’r ddeiseb hon. Ar yr adeg honno, caeodd y Pwyllgor y ddeiseb gan nodi nad oedd llawer o gamau y gallent eu cymryd ar y mater.

Ym mis Mehefin, cyfeiriodd y Gweinidog at y mater o ran ei gwneud yn ofynnol cael paneli solar mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau o’r Senedd ar adroddiad cynnydd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU y cyfeiriwyd ato’n gynharach yn y papur briffio hwn.

Mae hefyd yn werth nodi bod y mater wedi’i godi yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn 2022 ystyriodd ddeiseb debyg. Roedd ymateb Llywodraeth y DU yn cyfeirio at fodolaeth hawliau datblygu a ganiateir a Rheoliadau Adeiladu.  

Hefyd ar lefel y DU, gosododd John Stevenson, Aelod Ceidwadol o Senedd y DU welliant i'r Bil Ffyniant Bro ac Adfywio yn galw am osod paneli solar ym mhob cartref newydd yn Lloegr o 2025 ymlaen, ond ni chafodd ei roi i bleidlais.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.